Mae gan y Practis 3 safle. Meddygfa Bron Meirion ym Mhenrhyndeudraeth yw'r prif safle sydd ar agor drwy'r wythnos ac mae gennym ddwy feddygfa cangen - Canolfan Iechyd Ardudwy yn Harlech a Chanolfan Iechyd Trawsfynydd yn Nhrawsfynydd, sydd ar agor am oriau cyfyngedig.
Mae Practis yn meddygfa cyffredinol gyda 6 bartneriaid yn gofalu am oddeutu 7,600 o gleifion.
Dani hefyd yn hyfforddi meddygon ers dros 20 o flynyddoedd,fel arfer mae yna feddyg ar ei cam hyfforddiant terfynnol cyn fod yn annibynol yn y feddygfa. Mae eich cydweithrediad yn y broses yma yn cael ei werthfawrogi .
Ein nod yw bod yn bractis gofalgar a thosturiol, yn gwrando ar gleifion, eu helpu i ddeall a rheoli eu hiechyd a'u lles, ac felly'n darparu'r gofal iechyd o'r safon gorau.
Mae'r Polisi Goddef Dim ar waith ym Mhractis Bron Meirion er mwyn diogelu lles staff a chleifion. Bydd ein tîm bob amser yn dangos parch a chwrteisi wrth ddelio â chleifion a'u cynrychiolwyr. Yn eu tro, gofynnwn ninnau i gleifion a'u cynrychiolwyr wneud yr un peth wrth ddelio ag aelodau o dîm y practis. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o drais, boed hynny'n llafar neu gorfforol, ac mae'n bosibl y byddwn yn rhoi gwybod i'r Heddlu am unrhyw un fydd yn ymddwyn felly ac yn tynnu ei enw oddi ar Restr Cleifion Cofrestredig y practis neu hyd yn oed ei roi ar y Cynllun Hafan Ddiogel sydd yn y Gaerwen, Ynys Môn.