Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Bractis Bron Meirion

Croeso i Bractis Bron Meirion

 

Mae gan y practis dair meddygfa:
  • Feddygfa Bronmeirion yn Mhenrhyndeudraeth - prif safle
  • Canolfan Iechyd Ardudwy, yn Harlech (safle cangen)
  • Canolfan Iechyd Trawsfynydd,  yn Nhrawsfynydd (safle cangen)

O 30.9.2024 mae gennym un rhif ffôn i gysylltu â phob safle - 01766 771955.

Diolch

Meddygfa Bron Meirion

Stryd y Castell, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6AL
Ffôn: 01766 771955 / Ffacs: 01766 770705

e-bost:  reception1.w94032@wales.nhs.uk 
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am - 6.30pm

 

Mae'r feddygfa ar agor bob dydd fel uchod, gydag apwyntiadau meddygon teulu, nyrsys a fflebotomi bob dydd.

Parcio

Mae parcio ar gael ar bob safle. Mae mannau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas gyferbyn â'r adeilad a mynediad trwy'r drws cefn - canwch gloch.

Dim Ysmygu: Mae gennym bolisi dim ysmygu ar waith yn y practis

 

 

 

Canolfan Iechyd Ardudwy

Ffordd Morfa, Harlech, Gwynedd. LL46 2US
Ffôn: 01766 771955 / Ffacs: 01766 781033

e-bost:  reception1.w94032@wales.nhs.uk

 


Oriau Agor:        Bore - Dydd Llun i ddydd Gwener - 9.00am i 1.00pm

                            Prynhawn - Dydd Llun, Mawrth, Iau - 2.00pm i 6.00pm

                                                Ar gau - prynhawniau Mercher a Gwener

 

Mae pob un o'n clinigwyr yn cylchdroi rhwng y tri safle, ac er bod meddyg teulu yn Harlech bob dydd fel arfer, weithiau mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ganslo apwyntiadau meddyg teulu os bydd salwch neu brinder staff. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch bob amser yn cael cynnig apwyntiad â chlinigydd ar un o safleoedd eraill y practis, a hefyd pan fydd y rhestr apwyntiadau dyddiol yn llawn.

 

Bydd Nyrs Practis / Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn Harlech o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos ac mae gan Fflebotomydd dair sesiwn yr wythnos hefyd.

 

Pan fydd y feddygfa ar gau, bydd eich galwad yn cael ei hailgyfeirio i'n prif safle ym Mron Meirion. Yn ystod adegau prysur pan fydd sesiynau'r meddygon yn llawn, efallai y cewch gynnig apwyntiad ym Mron Meirion.

 

Parcio

Mae parcio ar gael. Mae mannau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas gyferbyn â'r adeilad a mynediad  y drws ffrynt .

Mynediad i'r Anabl. Mae pob un o'r ystafelloedd ymgynghori a thoiledau ar y llawr gwaelod ac mae modd defnyddio cadair olwyn ynddynt.

Dim Ysmygu: Mae gennym bolisi dim ysmygu ar waith yn y practis

 

Mae'r ganolfan ar yr A496 yn Harlech isaf. 

 

 

Canolfan Iechyd Trawsfynydd

Trawsfynydd, Gwynedd. LL41 4SB

Ffôn: 01766 771955 / Ffacs: 01766 540389

e-bost:  reception1.w94032@wales.nhs.uk

 

Mae ar agor bedwar bore'r wythnos o ddydd Llun i ddydd Iau 9.15 yb i 1.15yp

 

Mae clinigwyr yn cylchdroi rhwng y tri safle, ac er bod meddyg teulu yn Nhrawsfynydd bob dydd fel arfer, weithiau mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ganslo apwyntiadau meddyg teulu os bydd salwch neu brinder staff. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch bob amser yn cael cynnig apwyntiad â chlinigydd ar un o safleoedd eraill y practis, a hefyd pan fydd y rhestr apwyntiadau dyddiol yn Nhrawsfynydd yn llawn.

Bydd Nyrs Practis yn Nhrawsfynydd un bore'r wythnos ac mae gan y Fflebotomydd un sesiwn yr wythnos hefyd.

 

Pan fydd y feddygfa ar gau, bydd eich galwad yn cael ei hailgyfeirio i'n prif safle ym Mron Meirion. Yn ystod adegau prysur pan fydd sesiynau'r meddygon yn llawn, efallai y cewch gynnig apwyntiad ym Mron Meirion.

Parcio

Mae parcio ar gael. Mae mannau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas gyferbyn â'r adeilad a mynediad i fyny ramp at y drws ffrynt o'r fan honno.

Dim Ysmygu: Mae gennym bolisi dim ysmygu ar waith yn y practis