Mae pob un o'n meddygon teulu'n gweithio'n rhan amser ac maen nhw i gyd yn gweithio mewn o leiaf dwy feddygfa cangen felly efallai na fydd yn bosibl gweld yr un meddyg teulu yn yr un feddygfa'n rheolaidd. Mae'n bosibl fodd bynnag i gleifion deithio i ganghennau gwahanol i weld meddyg penodol os oes apwyntiad ar gael.
Rydym yn bractis hyfforddi sy'n golygu bod Cofrestryddion Meddygon Teulu yn dod yma un ai am 6 neu 12 mis. Os bydd gennym Gofrestrydd ar hyn o bryd, fe'i rhestrir gyda'r Meddygon Teulu uchod.
Mae'r Nyrsus Sy'n Rhagnodi yn weithio ochr yn ochr â'r Meddygon Teulu. Mae nhw'n gweld cleifion â mân salwch neu fân anafiadau. Mae'n gallu rhagnodi meddyginiaethau, cyfeirio a chyhoeddi nodyn absenoldeb salwch a thrin ystod eang o gyflyrau eraill.
Mae Irfan yn gweithio ir practis ac yn delio gyda phrosesu ceisiadau meddyginiaeth, diweddaru dogfennau meddygol sydd yn rhyddhau cleifion o ysbytai, Adolygu meddyginiaeth blynyddol ynghyd ag adolygu meddyginiaeth penodol.
Mae Mrs Jones yn gwneud yn siŵr bod agweddau anfeddygol eich gofal yn rhedeg yn llyfn. Mae Mrs Jones yn gweithio ym Mronmeirion ac Ardudwy ar rota ac mae'n hapus i helpu os bydd gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am sut mae'r Practis yn cael ei redeg.
Ysgrifenyddes
Elizabeth Evans* & Donna Morris-Collins* |
Derbynyddion
*Siarad yn Gymraeg
Mae'r derbynyddion yma i'ch helpu chi ond mae ganddynt swydd anodd iawn o blesio'r meddygon a'r cleifion. Byddwch yn glaf amyneddgar pan fyddwch yn ffonio'r feddygfa.
Ffisiotherapydd
Dwynwen Pennant
Gwasanaethau Awdioleg
Beverley Soden (problemau clyw, tinnitus)