Byddwn yn gwneud Ymweliadau Cartref pan fydd y claf yn rhy wael i ddod i'r feddygfa.
Os oes arnoch angen ymweliad cartref, ffoniwch eich meddygfa cyn 11.00yb gan sicrhau eich bod yn rhoi'r rheswm am eich cais i'r derbynnydd a sicrhau bod y cyfeiriad a'r manylion cyswllt cywir gennym. Mae'n bosibl y bydd ar y meddyg angen eich ffonio'n ôl i gael mwy o wybodaeth.
Ni allwch ofyn am feddyg penodol ar gyfer ymweliad cartref gan eu bod yn cael eu rhannu yn dibynnu ar lwyth gwaith y diwrnod.
Sylwer bod ymweliadau cartref yn cymryd llawer o'n hamser, ac o gofio ardal ddaearyddol fawr y practis, gallai meddyg weld 6 chlaf yn y feddygfa yn yr amser y byddai'n ei gymryd i wneud un ymweliad cartref.