Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Meddygol

 
 

 

Ffisiotherapydd

Gellir archebu'r ffisiotherapydd yn uniongyrchol ar gyfer problemau cyhyrol o lai nag wythnos. Cynhelir y clinigau ym Meddygfa Bron Meirion unwaith yr wythnos. Holwch y derbynnydd am fanylion pellach.

Nyrsys Ardal

Y Tîm Nyrsio Ardal: Gogledd Meirionnydd

 

Arweinydd Tîm - Glesni Jones

Rheolwr Achosion - Beth Turner

 

Gweithio'n ddaearyddol - 3 Thîm o Nyrsys Ardal. Mae peiriant ateb 24 awr ym mhob ardal ac rydym yn ymateb i alwadau pan ddown yn ôl i'r swyddfa am 9am, 1pm a 4pm. Rydym yn gweithio o 9am i 5pm 7 diwrnod yr wythnos yn cynnwys gwyliau banc.

 

Blaenau Ffestiniog/Harlech/Penrhyndeudraeth  

 03000 853 444

Mae'r ardaloedd gwaith yn cynnwys: Blaenau, Trawsfynydd, Dolwyddelan, Gellilydan, Harlech, Talsarnau, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Minffordd, Porthmadog, 

 

Eifionydd Tim yn gweithio o Ysbyty Alltwen - 03000 852484

Mae'r ardaloedd gwaith yn cynnwys: Porthmadog, Tremadog, Morfa Bychan, Pentrefelin, Llanfrothen a Beddgelert

 

Abermaw Tîm yn gweithio o Feddygfa Minfor - 01341 281357

Mae'r ardaloedd gwaith yn cynnwys: Llanfair, Llandanwg, Llanbedr, Dyffryn Ardudwy, Llanaber, Abermaw

 

Athroniaeth y Tîm

Nod ein timau o Nyrsys Ardal yw darparu asesiad a gofal nyrsio holistaidd i gleientiaid sy'n gaeth i'r tŷ neu ble bynnag maen nhw'n byw.

 

 

Rôl Glinigol Nyrsys Ardal

Galluogi Gofal

Adsefydlu a Chefnogi

Gofal Terfynol a Lliniarol

Cydlynu pecynnau gofal cymhleth

Addysg iechyd a hybu iechyd

Hwyluso rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel

Darparu triniaeth i alluogi gofal yn y cartref

Arbenigo mewn gofalu am friwiau ac wlserau ar y goes

 

 

Mae Nyrsys Ardal yn gwneud asesiad holistaidd ar eu hymweliad cyntaf, ac yn dilyn yr asesiad, bydd cynllun gofal yn cael ei drafod a'i roi ar waith gyda'r cleient mewn ffordd sy'n parchu'r cleient ac yn ystyried ei anghenion gofal mewn ffordd urddasol, heb farnu, gan feddwl am gredoau a diwylliant.  Mae ein gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth ac rydym yn dilyn y polisïau a gweithdrefnau a gynhyrchir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Mae gan Nyrsys Ardal 48 awr i ymateb i alwadau, ond rydym yn blaenoriaethu gofal a chyfeiriadau bob dydd ac rydym yn gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth.

 

Ymwelwyr Iechyd

Ymwelwyr Iechyd ar gael fel dilyn:

03000 850 004 (Blaenau/Trawsfynydd)

03000 852491 (Penrhyn/Porthmadog)

01341 280217 (Harlech)

Bydwragedd

Mae'r tîm Bydwreigiaeth yn gweithio o Ysbyty Alltwen. Maen nhw'n cynnal clinigau rheolaidd yn y feddygfa ond trefnir yr holl apwyntiadau gan y bydwragedd eu hunain ar 03000 852491 NEU 03000 85

Therapydd Galwedigaethol Iechyd Meddwl

Bydd y Therapydd Galwedigaethol sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl yn gallu cynnig apwyntiad i drafod eich pryderon lles meddwl. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn eich cefnogi i gynllunio pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella eich lles; gall hyn gynnwys sesiynau dilynol gan y Therapydd Galwedigaethol i gael mynediad at ymyriad byr, cyfeirio at adnoddau hunangymorth neu atgyfeirio at wasanaethau eraill. Gall staff y dderbynfa archebu cysylltiadau cyntaf yn uniongyrchol i'r clinig

 

Awdiolegydd

Gellir archebu'r Awdiolegydd ar gyfer apwyntiadau cyswllt cyntaf mewn perthynas â phroblemau clyw, tinitws a phendro. Cynhelir y clinigau yng Nghanolfan Iechyd Ardudwy. Holwch y derbynnydd am fanylion pellach