Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau

Ail bresgripsiwn yw meddyginiaeth rydych yn ei chymryd yn rheolaidd ac mae eich meddyg wedi trefnu i chi eu hail archebu bob mis neu bob dau fis. Ni allwch archebu unrhyw feddyginiaeth nad ydyw ar eich Rhestr o Ail Bresgripsiynau.

 

Gallwch archebu eich ail bresgripsiwn mewn gwahanol ffyrdd, fel y dangosir isod. Sylwer y bydd eich presgripsiwn yn cael ei brosesu a bydd ar gael i chi ei nôl 48 awr ar ôl i chi ei archebu.

 

Dros y ffôn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu cyn i'ch meddyginiaeth ddod i ben oherwydd mae angen 2 ddiwrnod gwaith arnom i brosesu eich presgripsiwn dros y ffôn.  Rydym wedi penderfynu parhau i ganiatáu i gleifion wneud eu cais am  feddyginiaeth dros y ffôn - yn wahanol i feddygfeydd eraill yn yr ardal.  Fodd bynnag, i'n helpu ni i reoli'r llwyth gwaith hwn, os gwelwch yn dda sylwch bod yn rhaid i chi ganiatáu 2 ddiwrnod gwaith i ni brosesu'ch presgripsiwn a'i anfon i'r Fferyllfa  

Os byddwch yn gwneud cais am eich presgripsiwn ar-lein drwy gofrestru ar gyfer ap GIG Cymru, mae’r amser aros yn fyrach a bydd eich cais yn cael ei brosesu erbyn y diwrnod gwaith nesaf.

 

Yn bersonol

Ticiwch yr eitemau rydych eu hangen ar eich ffurflen ail bresgripsiwn a'i gadael yn eich meddygfa leol. Os ydych wedi colli eich bonyn ail bresgripsiwn, gwnewch yn siwr eich bod yn ysgrifennu eich enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni a'r union feddyginiaeth rydych ei angen ar ddarn o bapur ac un ai ei roi i'r derbynnydd neu yn y bocs penodol.

 

Drwy’r Post

Gallwch bostio eich bonyn ail bresgripsiwn i'ch meddygfa leol ar gyfer ei nôl o'r feddygfa/fferyllfa. Os hoffech i ni bostio eich presgripsiwn yn ôl atoch, gwnewch yn siwr eich bod yn amgáu amlen barod.  Os nad oes gennych drefniant gyda'ch fferyllfa i nôl eich presgripsiwn o'r feddygfa, bydd arnoch angen rhoi amlen barod i ni er mwyn i ni ei bostio i'r fferyllfa/cyfeiriad a ddymunwch.

 

Ar-lein

Ap GIG Cymru

Rydym yn falch i gyhoeddi y gallwch nawr gael mynediad at wasanaethau iechyd ar Ap newydd GIG Cymru.

Mae’r Ap yn ffordd syml a diogel o:

  • trefnu apwyntiadau arferol
  • archebu presgripsiynau amlroddadwy
  • gweld rhannau o’ch cofnod meddygol

I gael mynediad i’r Ap mae’n rhaid i chi:

  • bod â mewngofnodi GIG wedi’i ddilysu’n llawn neu ID llun dilys i brofi pwy ydych chi
  • bod yn 16 oed a throsodd

 

Cliciwch ar ddolen Ap GIG Cymru am ragor o wybodaeth.

 

 

Fferyllydd
Irfan Asaf

Mae Irfan yn gweithio ir practis ac yn delio gyda phrosesu ceisiadau meddyginiaeth, diweddaru dogfennau meddygol sydd yn rhyddhau cleifion o ysbytai, Adolygu meddyginiaeth blynyddol ynghyd ag adolygu meddyginiaeth penodol.   Fe all gleifion dderbyn galwad ffon gan Irfan os bydd angen iddo drafod unrhyw ddefnydd o foddion rydych yn gymeryd neu I wneud adolygiad o’ch meddyginiaeth ar y ffon.    Mae yn aelod cyfannol or practis ac yn cyd weithio yn agos gyda r meddygon teulu.