Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan hon.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Meddygfa Bron Meirion. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Am wybodaeth bellach edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd Gwefan.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 08.12.2022
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Adborth a chysylltu
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â reception1.w94032@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 5 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: reception1.w94032@wales.nhs.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb .
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK. Os oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr ydych am gysylltu ag ef.
Mae gan rai o'n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw'ch ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd BSL ar-lein.
Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar linc uchod Relay UK:
I gael mwy o wybodaeth am y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, trowch at eu tudalen we.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Meddygfa Bron Meirion wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 08.12.2022
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol. Diffyd cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘RhHCG 2.1 AA’ mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:
Baich anghymesur
Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.
Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Rhagfyr 2020, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghaifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.
Beth rydm yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu nodi a datrys materion yn unol â'r amserlenni a ddangosir ar gyfer pob maes uchod.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis December 2022. Bydd yn cael ei adolygu ym mis December 2023
Roedd y wefan hon yn cael ei phrofi’n flaenorol ac mae’n cael ei phrofi ar hyn o bryd i weld a yw'n cydymffurfio ag AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 ac mae'r profion hyn wedi'u cynnal yn fewnol.