Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Newydd

Sut i Gofrestru gyda'r Practis

Mae gennym restr agored ac rydym yn croesawu ceisiadau cofrestru gan gleifion sy'n symud i ardal y practis.
 

Mae ffin ardal y Practis ar gyfer cleifion newydd fel a ganlyn:
Penrhyndeudraeth, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Harlech.
Dyma’r manau ble mae’r ffin yn gorffen:


cyfeiriad Criccieth – i fyny at Gartref Nyrsio Plasgwyn
cyfeiriad Caernarfon – i fyny at dop Penmorfa
cyfeiriad Beddgelert - cyn Pont Aberglaslyn
cyfeiriad Blaenau Ffestiniog – i fyny at yr ogofau llechi
cyfeiriad Bala – i fyny at dop Cwm Prysor
cyfeiriad Dolgellau – hyd at ddiwedd Bronaber
cyfeiriad Abermaw – cyn Talybont hyd at Eglwys 
Santes Ddwywe

 

Cofrestru

Byddwn yn gofyn i gleifion lenwi ffurflen gofrestru a holiadur wrth gofrestru.  Byddwn yn gofyn am brawf adnabod a phreswylio.

Os yw claf yn newid eu cyfeiriad neu rif ffôn, dylent roi gwybod i ni.  Os ydynt o dan ofal ysbyty, dylent hefyd roi gwybod i'r ysbyty.  Gellir diweddaru rhifau ffôn ar Fy Iechyd Ar-Lein (cliciwch am y ddolen).

Bydd angen i'r rhai sy'n symud o'r dalgylch gofrestru â phractis sy'n agosach i'w cartref.