Rydym nawr yn gwneud apwyntiadau ar gyfer clinigau ffliw ym mhob un o'r tair cangen o feddygfeydd yn dechrau o 30 Medi 2024.
Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw am ddim gan y GIG yng Nghymru:
· unigolion 65 oed a hyn, a ddiffinnir fel y rhai 65 oed a hyn ar 31 Mawrth 2024
· y rhai sydd rhwng chwe mis ac o dan 65 oed mewn grwp risg clinigol (gweler isod)
· menywod beichiog
· oedolion sy'n ordew iawn (sydd â? BMI o 40 neu fwy)
· unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl hirdymor
· gofalwyr
· pobl ag anbledd dysgu
· gweithwyr cartrefi gofal gyda chyswllt uniongyrchol â chleientiaid
Mae pobl (dan 65) ag unrhyw un o'r cyflyrau iechyd tymor hir isod yn cael eu hystyried mewn mwy o berygl o ffliw a'i gymhlethdodau, a dylent gael brechiad ffliw blynyddol:
· Clefyd cronig ar y frest (gan gynnwys asthma cymedrol i ddifrifol)
· Clefyd cronig y galon
· Clefyd cronig yr arennau (o gam 3)
· Clefyd cronig yr afu/iau
· Clefyd niwrolegol cronig (gan gynnwys strôc neu strôc fach)
· Diabetes (gan gynnwys hwnnw a reolir gan ddeiet)
· System imiwnedd wan (o ganlyniad i gyflwr iechyd neu driniaeth)
· Dueg (spleen) sy'n gweithredu'n wael (neu os yw'ch dueg wedi cael ei thynnu)
· Gordew iawn (BMI o 40 neu fwy)
Erbyn hyn, cynigir brechlyn ffliw blynyddol ar ffurf chwistrelliad trwynol i blant rhwng dwy a deg oed. Yn gyffredinol, bydd plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn yn eu meddygfa, a bydd plant pedair i ddeg oed yn cael eu brechlyn yn yr ysgol. Mae'r grwpiau canlynol o blant yn gymwys i gael brechiad y ffliw am ddim gan y GIG yng Nghymru:
· pob plentyn dwy a thair oed (ar 31 Awst 2023)
· pob plentyn yn yr ysgol gynradd (dosbarth derbyn i flwyddyn ysgol 6)
· dylai plant o 6 mis oed sydd â chyflwr iechyd tymor hir gael brechlyn ffliw, i'r rhai dan ddwy oed bydd hwn yn bigiad, i'r rhai 2 oed a hyn bydd yn chwistrelliad trwynol.